Tresaith
Llety yn Nhresaith
Accommodation in Tresaith

Fflatiau H/A | Self Catering Flats
Canolfan Tresaith | Tresaith Centre
Siop y Traeth | Beach Shop
Atyniadau

* Croeso
* Tresaith
* Y Ganolfan
* Fflatiau Fronifor
* Geiriau Da
* Prisiau
* Archebu
* Siop y Traeth
* Atyniadau
* Ffenest Wydr Liw
* Cysylltu
* Dolenni

* Dinbych-y-Pysgod

Aberteifi

Castell AberteifiTref farchnad hynafol, a’r porth i ddyffryn Teifi. Gorwedd Aberteifi 8 milltir i’r de ar hyd yr arfordir o Dresaith. Wrth bont Aberteifi gwelir y castell a adeiladwyd yn wreiddiol o bren gan y Normaniaid, ac wedyn o garreg gan y Cymro, yr Arglwydd Rhys.

Newidiodd ddwylo yn ôl a blaen sawl gwaith rhwng Norman a Chymro, ond mae ei bwysigrwydd i’r Cymry yn fyw inni heddi gan mai yn y castell hwn y cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf o dan dywysogaeth Rhys ap Gruffydd, yr Arglwydd Rhys.

Mae gan Aberteifi Theatr lewyrchus iawn, y Mwldan, gyda sinema cyfforddus hefyd.

Gwbert ac Ynys Aberteifi

Ynys Aberteifi3 milltir o dref hynafol Aberteifi (sydd 8 milltir i’r de o Dresaith) y mae Gwbert. 200 llath un unig o arfordir Gwbert ceir Ynys Aberteifi sydd yn eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru.

Gerllaw Gwbert, gan edrych drosodd at yr ynys, y mae Fferm Arfordirol Ynys Aberteifi. Gallwch fel teulu cyfan, fwynhau yng nghwmni anifeiliaid Cymreig megis yr ebolion mynydd Cymreig a’r defaid wrth gwrs, ac yng nghwmni anifeiliaid o dramor megis ‘wallabies’, ‘emus’ a ‘llamas’!

Ar agor o 10yb > 6yh bob dydd o Mawrth 20fed > Diwedd Hydref 2007, gan ail agor ar Mawrth 17eg, 2008. 01239623637 - www.cardiganisland.com

Cilgerran

Gorwedd pentref Cilgerran 3 milltir i’r de o Aberteifi, a thros y ffin yn sir Benfro. Cymerwch beth amser yn cerdded yr ardal gan ymweld â chastell hynafol Cilgerran.

Ceunant CilgerranNid nepell o’r pentref y mae Canolfan Natur Cymru sydd ar agor o Ebrill i Hydref, 10.30yb – 5yh. Mae’r Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi ar y llaw arall, ar agor gydol y flwyddyn.

Fel awgryma’r enw, yr afon a red i fewn i’r môr yn nhref Aberteifi, yw afon enwog y Teifi. Gallwch gymryd taith canw neu kayak i lawr yr afon hon, i lawr drwy geunant bendigedig ac wrth ymyl ardal natur. Gallwch drefnu tripiau o grwpiau mawr yn ogystal. 01239613961 - www.heritagecanoes.co.uk

Cenarth

Cwrwgl CenarthY mae pentref Cenarth yn fan y gellid gweld yr afon Teifi ar ei gorau. Mae yna lwybr ar hyd yr afon er mwyn gweld y rhaeadrau, ac mae’n fan poblogaidd i weld eogiaid yn neidio. Mae’n bentref hynafol - y bont tua 200 mlwydd oed, y felin o’r 17eg ganrif a’r dafarn leol o’r 16eg ganrif! Pan yn meddwl am Cenarth, cyfeiria lawer ato fel yr ychydig fannau y gwelir dynion yn pysgota mewn cwrwgl o hyd.

Ar lan yr afon ceir Canolfan Cyryglau a gellid ymweld â’r Hen Felin yn ogystal.

Wrth ddilyn arwyddion am Abercych, dilynwch arwyddion am Gaws Cenarth - caws hynod o boblogaidd a blasus. Yma gallwch weld y broses o wneud caws a chael ei flasu. Ar agor yn ddyddiol ar wahân am ddydd Sul, a’r amser gorau i ymweld yw 11yb – 2yh

Os oes gennych egni i’w losgi, gallwch rhoi cais ar ymladd â pheli paent. 01559371621 www.cenarth-paintball.co.uk

Cei Newydd

Cei Newydd14 milltir ar hyd y brif heol i’r gogledd o Dresaith, mae tref fechan Cei Newydd. Credir mai dyma’r dref y lleolodd yr awdur Dylan Thomas ei ddrama ‘Dan y Wenallt’ (Under Milk Wood).

Mae’n leoliad prysur iawn gydol yr haf, a man y gellid trefnu teithiau cwch i ymweld â’r arfordir gyfagos, ynghyd â bywyd gwyllt y môr a chael gweld y dolffiniaid a’r morloi - www.new-quay.com/surveyboat.htm

Ar hyd yr heol i lawr am Gei Newydd, ceir amgueddfa wahanol a diddorol - Amgueddfa Fêl. Gallwch weld y daith i greu’r mêl blasus - dilyn hynt y gwenyn yn gweithio yn eu gwahanol amgylchfyd, ac o fewn cychod wedi’u hadeiladu’n bwrpasol i chi gael gweld eu tu fewn. Maent hefyd yn cynhyrchu medd Cymreig ar y llecyn hwn a chyfle i chi gael ei flasu www.thehoneyfarm.co.uk

Teithio

Cardi BachGallwch ddewis ei chymryd yn araf bach am ddiwrnod drwy fynd ar daith trên drwy gefn gwlad.

Teithiau Rheilffordd:
www.teifivalleyrailway.com
www.gwili-railway.co.uk
www.rheidolrailway.co.uk

Neu os yn chwilio am fodd i’ch cymryd o fan i fan: www.trawscambria.info

Bws arfordirol lleol sy’n rhedeg rhwng Mehefin 29 – Hydref 7, bob dydd ag eithrio dydd Mercher, yw’r Cardi Bach. Am amserlen ymwelwch â gwefan: www.visitcardigan.com

Gweithgareddau

Does dim prinder gweithgareddau yn ardal Tresaith. Y mae cymaint i’w wneud o ran hanes lleol, teithiau cerdded, chwaraeon dwr, ymlacio ar y traeth, fel nad oes modd diflasu!

Dyma restr o bethau y gallwch eu hystyried.  Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Pentrefi a threfi eraill o ddiddordeb

Cwmtudu

Cwmtudu

Carreg Bica Llangrannog

Llangrannog

Eglwys Gwyn Mwnt

Eglwys Gwyn Mwnt

Pentre Ifan

Pentre Ifan

Cei Newydd

Cei Newydd

Ynys Lochtyn

Ynys Lochtyn

Trefdraeth

Trefdraeth

© 2008 tresaith.net