Tresaith
Llety yn Nhresaith
Accommodation in Tresaith

Fflatiau H/A | Self Catering Flats
Canolfan Tresaith | Tresaith Centre
Siop y Traeth | Beach Shop
Canolfan Tresaith

* Croeso
* Tresaith
* Y Ganolfan
* Fflatiau Fronifor
* Geiriau Da
* Prisiau
* Archebu
* Siop y Traeth
* Atyniadau
* Ffenest Wydr Liw
* Cysylltu
* Dolenni

* Dinbych-y-Pysgod

Canolfan Tresaith

Y Ganolfan hon yw un o adeiladau mwyaf pentref Tresaith, gyda digon o le i fyny at 44 o bobol gysgu ynddi! Fe’i rhennir yn ddwy ystafell dorm, un gyda gwelyau bync i 20 o fechgyn, a dorm arall â gwelyau bync i 20 o ferched.

Ceir dwy ystafell fach drws neaf i’r ddau dorm lle y gall 2 athro / arweinydd aros gyda mwy o breifatrwydd! Mae yma ystfell fwyta / stafell fyw eang drws nesaf i gegin mawr hunan gynhaliol. Ceir dwy ystafell ymolchi sydd â chawodydd – un i’r bechgyn, ac un i’r merched.

Lleolir y Ganolfan yng nghanol pentref glan môr Tresaith. Dim ond 200 llath o’r traeth ar hyd llwybr troed drwy ganol y pentref ydyw.

Pwyswch ar un o'r lluniau i weld fersiwn mwy o faint:

Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Prif fynedfa ar ochr y ganolfan
Heol Breifat a Maes Parcio'r Ganolfan
Y Llwybr o'r Ganolfan i'r môr
Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Athrawon Ysgol
Gyfun Gwynllyw yn brysur yn y gegin
Y bois wedi cael
llond eu gwala
Gemau Plant
Gwynllyw yn y Ganolfan
Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Ymlacio
Paratoi Bwyd
Golygfa Hyfryd
Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Golchi
Gwelyâu Bync
Coginio Bwyd
Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Gwledd
Gwelyâu Bync
Newydd Gyrraedd
Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Canolfan Tresaith
Amser Golchi lan
Paratoi am y diwrnod
Ymlacio yn yr haul

Pwy all aros?

Unrhyw grwp o bobol! Gallwch hirio’r Ganolfan yn breifat. Gofynnwn eich bod yn aros yno am o leiaf ddwy noson, a chydag o leiaf 10 o bobol yn aros y nos. Mae’n fan perffaith am dripiau ysgolion / ysgolion Sul / gwahanol fudiadau / teuluoedd / ffrindiau, i gyd rannu a mwynhau yn hafan diogel Tresaith.


Dod â beth?

Mae’r Ganolfan yn hunan gynhaliol. Ceir oergell a rhewgell mawr yn y gegin, felly dewch a digonedd o fwyd eich hun. Mae yna ffwrn nwy a man ffrio dwfn i goginio, peiriant pilio tatws a pheiriant golchi llestri. Dewch â dillad gwely (sengl) eich hun, boed yn sachau cysgu neu flancedi. Darperir gobenyddion ond dim gorchuddion.


Parcio:

Lle o flaen y ganolfan i ddau fws mini. Os oes angen rhagor o le, rhowch wybod o flaen llaw a gallwn sicrhau lle i barico wrth y traeth.


Cyrraedd Canolfan Tresaith:

O gyfeiriad Aberporth: Wedi cyrraedd Tresaith dilynwch yr heol i lawr a throi i’r chwith am y môr. Wedi troi i’r chwith cewch hyd i’r ganolfan wrth droi i’r mynediad chwith cyntaf, ac mae’r Ganolfan ar ben yr heol breifat hon.

O gyfeiriad heol o’r gogledd: Wedi cyrraedd Tresaith, dilynwch yr heol gul i lawr ac i fyny hyd at droad yn yr heol, yma fe drowch i’r dde am y mor. Wedi troi i’r dde, cewch hyd i’r ganolfan wrth droi i’r mynediad chwith cyntaf, ac mae’r Ganolfan ar ben yr heol breifat hon.

Canolfan Tresaith
Tresaith
ABERTEIFI
SA43 2JL
Map multimap.com

Gofynnwn i chi gadw mewn cof y lleolir y Ganolfan yng nghanol pentref sydd â phobol yn byw o gwmpas. Diolchir os cedwir y swn i lawr.


Prisiau Canolfan Tresaith 2008:

£10 y pen, y nos, yn unig yw hi i gael aros yn y Ganolfan. Darperir trydan, gwres a nwy yn y gost hyn!

Rhoddir gostyngiad i griw sydd yn dysgu Cymraeg (ee CYD), i ysgolion uwchradd dwyieithog Cymru ac i griwiau Ysgolion Sul a chymdeithasau Cristnogol.

Cysylltwch gyda ni am fwy o wybodaeth, neu pwyswch yma i archebu.


Tresaith

Yn awr mae lle i aros,
un man yn hafan drwy'r nos,
un gwesty i Gymru i gyd
yn y bae fwynhau bywyd,
un lle rhydd ymhell o'r haid,
lle i wên, a gwell enaid.

Tudur Dylan Jones
(Pwyswch yma i ddarllen y gerdd yn gyflawn)

© 2008 tresaith.net