Llety yn Nhresaith Accommodation in Tresaith Fflatiau H/A | Self Catering Flats Canolfan Tresaith | Tresaith Centre Siop y Traeth | Beach Shop |
Fflatiau Hafod y Môr, Dinbych y Pysgod |
* Croeso |
Fflatiau Hafod y Môr
Ty teulu o’r 19eg yw ‘Hafod y Môr’. Fe gynnwys 4 fflat foethus gyda golygfeydd gwych dros harbwr y dref o ymron i bob ffenestr. Y mae rhwyddineb y dref hefyd wrth garreg y drws i un cyfeiriad, ac wrth droi i’r cyfeiriad arall byddwch i lawr ar y traeth o fewn chwinciad! Fflat Waldo – cysgu 9
Fflat Harbwr – cysgu 3/5
Fflat Crwys – cysgu 2/4
Fflat Dewi Emrys – cysgu 5/7
Mae’r prisiau aros yn y fflatiau hyn yn amrywio £282 - £775 am wythnos. Cysylltwch i gael manylion. Dinbych y Pysgod
Er hynny, yr hyn sydd fwyaf poblogaidd am y dref yw’r ddau draeth, un yn wynebu’r gogledd a’r llall yn wynebu’r de gyda Chraig y Castell rhyngddynt. Mae digon o lefydd bwyta, rhai ohonynt yn llawn cymeriad Normanaidd, tafarndai a siopau ayb o fewn y dref. Cyrraedd yno:
Yr Ardal gyfagos Y mae sir Benfro wedi ysbrydoli artistiaid, ffotograffwyr, awduron ayb gyda’i arfordir ysblennydd. Y mae’r llwybr arfordirol rhwng Llandudoch (tu fas i Aberteifi) yng ngogledd y sir ac Amroth yn y de, yn dilyn arfordir Parc Cenedlaethol Sir Benfro drwy rai o olygfeydd mwyaf ysbrydoledig Ynysoedd Prydain. Arwain y llwybr ar hyd dopiau’r clogwyni gan fwyaf, gyda golygfeydd gwych o’r clogwyni hynny, y traethau ac ynysoedd a chreigiau oddi ar y tir mawr sy’n frith o fywyd adar. Dengys pob tro ar y llwybr rhywbeth gwahanol – harbwr bychan, pentref hardd, cromlech ers cyn cof, meini hirion o’r Oes Efydd, caerau o’r Oes Haearn, eglwys neu gapel y seintiau Celtaidd cynnar a’u dilynwyr, neu gastell adeiladwyd gan y Normaniaid. Dolenni diddorol |
Welcome * |
|||||||||||||||||||||||||
©
2008 tresaith.net |