Llety yn Nhresaith Accommodation in Tresaith Fflatiau H/A | Self Catering Flats Canolfan Tresaith | Tresaith Centre Siop y Traeth | Beach Shop |
Fflatiau Fronifor - Fflat Eluned |
* Croeso |
Fflatiau Fronifor | Fflat Cilie | Fflat Eluned | Fflat Ty Llew Mae'r fflat hwn yn cysgu i fyny at 3 person. Mae yma stafell wely ddwbl olau, a gellid cysgu ar y soffa ledr mawr sydd yn y lolfa! Ceir golygfa wych dros bentref Tresaith ac o’r mor o ffenest y lolfa. Darperir yr holl ddillad gwely. Cynnwys y gegin bopty ping (meicrodon), hobiau coginio, ac oergell. Pwyswch yma i weld prisiau aros yn Fflat Eluned, Fronifor, neu yma i gael y manylion archebu. Pwyswch ar un o'r lluniau i weld fersiwn mwy o faint:
Manylion Pellach
Cafodd y fflat yma ei henwi ar ôl - Eluned Phillips Bardd o Genarth ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Hi yw’r unig wraig i ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Y tro cyntaf oedd yn Eisteddfod Y Bala ym 1967. Y testun oedd ‘Corlannau’ ac ysgrifennodd ddwy bryddest, gydag un ohonynt yn ennill y Goron a’r llall hefyd ymhlith y dair orau yn y gystadleaueth. Ei phwnc yn y gerdd fuddugol yw tair o gorlannau crefyddol y byd, crefydd Islam, Cristnogaeth a chrefydd Bwda'r Tseineaid. Yr ail dro iddi ennill y Goron, oedd yn Eisteddfod Ynys Môn yn 1983. Testun y bryddest oedd ‘Clymau’. Ynddo mae Eluned Phillips yn cymryd agwedd dra gwahanol i agwedd ymffrostgar Prif Weinidog Prydain ar y pryd, Margaret Thatcher, wnaeth ddatgan rhyfel â’r Ariannin dros Ynysoedd y Malvinas. 'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd. |
Welcome * |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
©
2008 tresaith.net |