Tresaith
Llety yn Nhresaith
Accommodation in Tresaith

Fflatiau H/A | Self Catering Flats
Canolfan Tresaith | Tresaith Centre
Siop y Traeth | Beach Shop
Geiriau Da

* Croeso
* Tresaith
* Y Ganolfan
* Fflatiau Fronifor
* Geiriau Da
* Prisiau
* Archebu
* Siop y Traeth
* Atyniadau
* Ffenest Wydr Liw
* Cysylltu
* Dolenni

* Dinbych-y-Pysgod

Geirda am y Fflatiau a'r Ganolfan

Ardal braf, bwthyn bendigedig a chroeso anfarwol. Pa well olygfa gewch chi?... Diolch am bob dim. Cwmni Theatr Mega ar daith gyda'r Panto Cymraeg

'Macsen'

Diolch am y croeso cynnes. Roedd y fflat yn gyfforddus ac mewn lle bendigedig!

Myf a Rob Gate, Halifax

Diolch am gael aros yma - wedi cael wythnos wrth ein boddau, ac fe ddown ni eto os na fyddwn ni 'di cael ein banio!

Richard, Gwenllian, Caradog, Mali a Dafydd Grigg

Unwaith eto diolch i'r criw... diolch am y croeso, [y] gofal a charedigrwydd.

Tom a Gwen Roberts, Caerdydd

Diolch yn fawr am eich croeso. Lle hyfryd - yr ydym wedi mwynhau'r mor, y ser a'r creigiau a Cheredigion i gyd. Diolch unwaith eto a phob bendith i'r dyfodol.

Felicity a Richard Cleaves, Cheltenham

Penwythnos hyfryd iawn. Wedi cael cyfle da i ymlacio. Edrych 'mlaen i ddod eto,

Noel a Maifis, Caerfyrddin

Cawsom amser bendigedig yma. Hafan dawel yn mis Chwefror. Diolch...

Carwyn a Zoe, Wiltshire

Wedi mwynhau mas draw! Y fflat yn hollol hyfryd a chysurus – a’r golygfeydd yn fendigedig! Y plant yn y Ganolfan hefyd wrth eu boddau! Diolch o galon!

Kath, Del a Gav a chriw Ysgol gyfun y Cymer, Rhondda

Fe gawsom ni benwythnos gwych yn Nhresaith a’r cyffiniau. Am argymell y lle i bawb!! A diolch i Angharad [yn y siop] am y taffis – roeddan nhw’n
dderbyniol iawn dydd Sul pan oedd angen siwgr arna’ i!!

Nici Beech

Anodd ffarwelio â Thresaith ar ôl wythnos arbennig. Wedi llwyr ymlacio. Y llety yn ardderchog ac yn gysurus. Diolch i chwi am eich croeso. Edrychwn ymlaen yn awr i ddychwelyd i’r fangre hyfryd hon yn fuan.

Emrys a Rose, Gwynedd

Wedi mwynhau ein hunain ac yn teimlo’n gysurus yn y fflat ardderchog yma.
Byddwn yn ôl eto, mae’n siwr.

Diolch yn fawr, Griff a Nan

Unwaith eto amser arbennig o dda yma yn Nhresaith. Y fflat yn grêt ar gyfer ein teulu bach ni. Edrych ymlaen am y tro nesa’.

Diolch, Adam, Sian, Magi, Eli a Rhys Williams, Gwynedd

Diolch am wyliau hyfryd – y fflat, yr olygfa a Thresaith yn fendigedig. Y plant wedi joio mas draw!

Sioned, Aled, Mabon, Ianto, Swyn a Haf, Bancffosfelen

Ddoe roedd y môr yn stormus – gwynt mawr o’r gorllewin yn codi tonnau oedd yn chwyrlïo ewyn gwyn dros y traeth ac yn torri’n drochion nes bod y bae fel eira o ffenestri Fronifor… felly aethom i Lannerch Aeron, lle
difyr iawn a gwerth ymweld ag o. Wedi wythnos o fôr go arw, er bod y tywydd yn braf, ddoe cawsom fôr godidog i nofio a rhwyfo ynddo – a haul cynnes ar yr un pryd! Diolch am wythnos fendigedig ar lan y môr.

Emyr, Angharad, Owain, Dyfan ac Esyllt, Cwm Tawe

Tri diwrnod o weithgareddau iachus iawn o gerdded y llwybr i gyfeiriad y de a’r gogledd. Yna yn y ‘Ship’ am weithgareddau llai iachus ond yr un mor bleserus. Seibiant hyfryd, diolch i Heledd am y croeso,

John a Ruth Thomas, Abertawe

Wel, am le bach hyfryd yw Ty Llew! Wedi dotio â Thresaith, y môr, y traeth ac wedi ymlacio yma’n llwyr. Dwi’n gobeithio cawn ddod nôl rhyw ddydd i brofi’r gwin unwaith eto. Diolch am eich croeso cynnes iawn (gan gynnwys y gwres hyfryd gyda’r nos!)

Gwen Lasarus a’r teulu, Bethel, Caernarfon

Gwyliau gwych – deffro i swn y tonnau a chael cyfle i ymlacio’n llwyr. Y fflat yn gyfforddus iawn a phawb wrth eu bodd ar lan y môr.

Teulu James, Bryn Iwan

Diolch o galon unwaith eto eleni am adael i blant Gwynllyw fynd i ‘fôr o Gymreictod’ Tresaith. Roedd y disgyblion wrth eu bodd a gwerthfawrogwn yn fawr eich haelioni tuag atom unwaith yn rhagor. Edrychwn ymlaen at ein cyfarfod flwyddyn nesaf!

Helen Rogers ar ran staff a disgyblion blwyddyn 8, Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Diolch am y cyfle inni ymweld â Thresaith unwaith eto eleni. Er gwaethaf tywydd garw, cafodd pawb amser bythgofiadwy. Rydym ni’n ceisio perswadio Mr Thomas i drefnu ymweliad arall inni!

Disgyblion blwyddyn 10, Ysgol Gyfun Gwynllyw

Wedi mwynhau mas draw - y fflat yn gysurus a'r lle'n fendigedig. Diolch o galon.

Mererid Hopwood a'r teulu, Caerfyrddin

Wedi cael amser gret yma. edrych ymlaen i ddod eto yn fuan. Diolch yn fawr.

Sian Williams a'r teulu, Gwynedd

Wedi cael amser godidog yn Nhresaith, un o berlau cuddiedig Cymru! Diolch am y croeso twym galon. Roedd y fflat yn gysurus a chartrefol - jyst y peth am benwythnos tawel ar lan y mor!

Rhodri Mabon a Nia Meleri

Diolch o galon i chi am gael dod lawr i Dresaith eleni – roedd y disgyblion ifanc wrth eu bodd. Hoffwn ddiolch hefyd am eich haelioni tuag atom fel ysgol a gan fawr obeithio y cawn ddod lawr atoch yn ystod yr un cyfnod y flwyddyn nesaf. Cofion Cynnes,

Helen Rogers a Blwyddyn 8
Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypwl

Diolch yn fawr iawn i chi am y cyfle i ddod i lawr i Dresaith am gyfnod unwaith eto eleni. Cafodd pawb amser gwych.

Disgyblion Blwyddyn 10 ac athrawon
Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypwl  
         

Bois bach, am le gwych i ysgolion! Dorm yr un i'r bechgyn a'r merched, ystafell amlbwrpas ar y llawr canol sy'n neuadd/ffreutur/llwyfan Eisteddfod ddwl a fflat drws nesaf i'r athrawon gael ymlacio. Mae'r gegin yn llydan ac yn llawn offer coginio. Dim ond siopa am fwyd a threfnu rota coginio sydd ei angen. Mae cawodydd a thai bach glân a'r drws ffrynt yn agor ar y grisiau sy'n arwain at y traeth. Lle saff, rhwydd, glân a chyfleus i fynd â chriw o ddisgyblion. Gwell peidio dweud mwy neu fe fyddwn ni'n cael trafferth llogi lle yn y dyfodol...

Aled Prys Williams (Pennaeth Adran Gymraeg)
Ysgol Gyfun Strade, Llanelli

sgwar

Geirda am y siop:

Ysgrifennaf air bach i chwi am y croeso bendigaid gawsom gennych, a’r caredigrwydd annisgwyl gawsom gyda’r perchennog.

Gwilym, Caerfyrddin

© 2008 tresaith.net