Tresaith
Llety yn Nhresaith
Accommodation in Tresaith

Fflatiau H/A | Self Catering Flats
Canolfan Tresaith | Tresaith Centre
Siop y Traeth | Beach Shop
Siop y Traeth - Tresaith

* Croeso
* Tresaith
* Y Ganolfan
* Fflatiau Fronifor
* Geiriau Da
* Prisiau
* Archebu
* Siop y Traeth
* Atyniadau
* Ffenest Wydr Liw
* Cysylltu
* Dolenni

* Dinbych-y-Pysgod

Siop y Traeth, Tresaith

Siop y Traeth yw unig siop Tresaith. Fe’i lleolir, fel awgryma’r enw, reit ar y traeth! Mae gan y siop dorraith o amrywiol bethau i’w gwerthu; o’r nodweddiadol fel bwced a rhaw, dillad nofio, stwff syrffio i lyfrau, cryno ddisgiau a phob math o fagiau lliwgar. Gellid hyd yn oed hirio siwt môr am y diwrnod am ddim ond £5.

Ond mae’n siwr mai prif atyniad y siop yw’r hufen iâ godidog a gynhyrchir yn lleol yn sir Benfro. Hufen iâ organig, blasus mewn pob math o flasau.
Mae’r merched sy’n gweithio yma bob amser yn groesawgar ac yn barod i helpu. Gallant hefyd wneud pob mathau o goffi ar eich cyfer, coffi masnach deg sydd wastad yn derbyn canmoliaeth.

Teras: Drwy’r siop fe ddewch hyd i’r teras, man eistedd godidog uwchben y traeth, gyda golygfeydd perffaith ar hyd y traeth i gyd a thuag at y môr. Ceir digon o le i eistedd a phendwmpian uwchben capuchino!

Amser agor: Pob diwrnod yn ystod gwyliau ysgolion Cymru o 10.30yb tan 6yh, a phob penwythnos sych rhwng Gwyliau Pasg a Hanner Tymor Hydref (ar gau drwy'r Gaeaf).

Cyfleusterau: Gyferbyn y siop ceir toiledau cyhoeddus gyda lle i olchi. Drws nesaf ar ddau ben y siop mae yna lefydd parcio.

Y Caban: Drws nesaf i’r siop, y mae’r caban bwyd. Yma coginir bwyd ‘traddodiadol’ glan môr – sglodion a physgod, byrgyrs o gig eidion Cymreig ac hefyd rholiau bacwn ac Wyau Maes. Ceir hefyd opsiynau mwy iach a bwyd i lysfwytawyr, neu gallwch gael baguettes wedi eu llenwi yn y siop drws nesaf. Agorir Y Caban yn ystod tymhorau’r gwyliau a chyda’r haul yn gwenu!

Pwyswch ar un o'r lluniau i weld fersiwn mwy o faint:

Siop y Traeth, Tresaith
Siop y Traeth, Tresaith
Siop y Traeth, Tresaith
Tu fewn i'r Siop
Tu fewn i'r Siop
Y Teras
Y Caban, Tresaith
Y Caban, Tresaith
Y Caban, Tresaith
Y Caban
Y Siop o'r Traeth
Latte a Cappuchino

Treaith yn y TywodSiop y Traeth
Tresaith
Aberteifi
SA43 2JL
01239 811565
angharad@tresaith.net

© 2008 tresaith.net