Tresaith
Llety yn Nhresaith
Accommodation in Tresaith

Fflatiau H/A | Self Catering Flats
Canolfan Tresaith | Tresaith Centre
Siop y Traeth | Beach Shop
Pentref Tresaith

* Croeso
* Tresaith
* Y Ganolfan
* Fflatiau Fronifor
* Geiriau Da
* Prisiau
* Archebu
* Siop y Traeth
* Atyniadau
* Ffenest Wydr Liw
* Cysylltu
* Dolenni

* Dinbych-y-Pysgod

Tresaith
o Siop y Traeth - o Fflatiau a Chanolfan Tresaith

Bnaer Las TresaithTraeth Baner Las 2007: Rhaid i’r dwr nofio fod yn cwrdd â’r safonau uchaf, a rhaid i’r traeth fod yn lân, yn cael ei reoli’n dda ac yn hybu rheolaeth amgylcheddol gadarn.

Un o olygfeydd mwyaf trawiadol Tresaith yw’r rhaeadr, gyda’r afon Saith yn rhedeg dros glogwyn i lawr at y traeth.

Rhaeadr TresaithMan gwych i gael cawod o ddwr ffres ar ol bod yn y môr!

Tresaith yw un o hoff fannau ymwelwyr â Cheredigion, ynghyd ag un o hoff draethau’r trigolion lleol.

Ceir traeth euraidd, diogel, ac wrth edrych yn ofalus draw yn y dwr gellid yn aml gweld dolffiniaid chwareus!

Mae’n fan perffaith ar gyfer teuluoedd â phlant, gan y ceir dau gofalwr bywyd ar y traeth yn ystod gwyliau’r haf.

Un tro, amser maith yn ôl...

Tarddiad yr enw Tresaith yn ôl y chwedl yw, nôl mewn hanes cyn co’, roedd yna frenin yn Iwerddon wedi cael llond bola o’i saith merch anystywallt.

Bu’n ceisio ers tro i’w rheoli, ond wedi rhyw gamwedd fe gollodd ei amynedd â nhw a’u gorchymyn iddynt fynd i ffwrdd mewn llong heb rwyfau na hwyliau ar y môr.

TresaithCymerodd tonau Môr yr Iwerydd hwynt tuag at Gymru, at Geredigion, ac fe’u llongddrylliwyd yma.

Adroddasant eu hanes i deulu caredig a’u helpodd i’w cludo i’w cartref, Llanborth. 

Aeth suon amdanynt ar hyd y lle, ac yn y pen draw fe gwympodd meibion i ffermwyr cyfagos mewn cariad â hwynt. Fe’u priodwyd gan gymryd drosodd saith o ffermydd gorau’r ardal.

Llwybr yr Arfordir

Llwybr arfordirol TresaithMae yna lwybr arfordirol yn cysylltu Tresaith ag Aberporth, cymer ond 20 munud i’w cherdded gyda’r môr islaw.

Pan fo’r llanw’n isel, gellid hefyd gerdded ar hyd y traeth yr holl ffordd i’r traeth gogleddol nesaf ym Mhenbryn.

Rhaid cymryd gofal o wneud hyn, drwy wneud yn siwr bod y llanw mas ddigon, drwy tsiecio amserlen llanw'r BBC.

Gellir hefyd edrych ar wefan y BBC i weld rhagolygon y tywydd ar gyfer Aberporth.

Ychydig ymhellach eto, mae traeth Llangrannog sydd yn enwog erbyn hyn am ei Gwersyll Urdd. Gellid parhau drwy ddilyn y llwybr arfordirol yma i fyny a draw at Ynys Lochtyn sydd yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pwyswch ar un o'r lluniau i weld fersiwn mwy o faint:

Tresaith
Tresaith
Tresaith
Y Bae
Y Bae
Machlud Haul
Tresaith
Tresaith
Tresaith
Y Traeth
Y Môr
Cregyn
Tresaith
Tresaith
Tresaith
Gwymon
Siop y Traeth
Aberporth yn y pellter
Tresaith
Tresaith
Tresaith
Pentref Tresaith
Y Traeth
Tresaith yn y traeth
Tresaith
Tresaith
Tresaith
Castell Tywod
Clogwyn Grug
Y Bae
Tresaith
Tresaith
Tresaith
Rhaeadr
Y Bae
Cefn Gwlad Tresaith

Cerdd Tudur Dylan Jones

Comisiynwyd y bardd adnabyddus o Gaerfyrddin, Tudur Dylan Jones, gennym i ysgrifennu cerdd fawl i Dresaith ac i’r llety yr ydym yn eu cynnig yma. Y mae Dylan yn brifardd enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol
Bae Colwyn yn 1995, ac, union ddegawd wedi’r gamp honno, yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri yn 2005. Yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 2007, ef oedd enillydd cystadleuaeth y Goron ar y testun gosodedig ‘Copaon’. Disgrifiwyd y cerddi fel rhai: "bychain, cynnil, glân eu crefft, ymataliol a swynol, sydd yn llawn ffresni ac sy'n gyfoes eu mynegiant."

Yr ydym yn hapus dros ben o allu cael Dylan fel ymwelydd cyson gyda ni yn Nhresaith, ac i’r fangre hon ei ysbrydoli i ysgrifennu’r gerdd hon:

Tresaith

Gwn am hafan, man i mi,
yn gynnes rhwng clogwyni,
lle mae ton ar don yn dod
a'i lanw yn wylanod,
bae a chreigiau a chregyn,
tir a thai, a'r traeth ei hun.

Yn awr mae lle i aros,
un man yn hafan drwy'r nos,
un gwesty i Gymru i gyd
yn y bae fwynhau bywyd,
un lle rhydd ymhell o'r haid,
lle i wên, a gwell enaid.

Tudur Dylan Jones


Ysgrifennodd Cynan gerdd o fawl i Dresaith

Tresaith

Beth sydd i’w weled yn Nhresaith
Ym min yr hwyr, ym min yr hwyr?
Yr eigion euog a’i fron yn llaith
Yn troi a throsi mewn hunllef faith;
A hyn sydd i’w weld yn Nhresaith.

Beth sydd i’w glywed yn Nhresaith
Ym min yr hwyr, ym min yr hwyr?
Cri gwylan unig â ’i bron dan graith
Yn dyfod yn âl o seithug daith;
A hyn sydd i’w glywed yn Nhresaith.

Beth sydd i’w deimlo yn Nhresaith
Ym min yr hwyr, ym min yr hwyr?
Calon alarus, â ’i hiraeth maith
Yn swn y tonnau y caffael iaith;
A hyn sydd i’w deimlo yn Nhresaith.

Cynan


Cerdd Emyr Lewis

Bardd adnabyddus arall, a ddaw o Gaerdydd yn wreiddiol, yw Emyr Lewis. Ysgrifenna Emyr yn y dull caeth a rhydd, ac mae wedi ennill y Goron a’r Gadair mewn gwahanol eisteddfodau cenedlaethol. Mae ei waith yn aml yn eironig a’i wrthrychau yn bennaf yn gyfoes a dinesig. Y mae Emyr a’i deulu wedi bod yn aros gyda ni yn Nhresaith hefyd, ysgogodd yr arhosiad ar ddwy englyn a adawodd mewn llyfr ymwelwyr!

Trochion geirwon yw’r goror ar y Sul
yn Nhresaith, wrth wylio’r
creigiau du yn malu’r môr
o hafan glud Fronifor.

Mae haul twym ola’ tymor ein gwyliau’n
ein galw i grwydro’r
bore, lawr llwybr y môr
i nofio, o Fronifor.

Emyr Lewis

© 2008 tresaith.net