hafan
llety
prisiau
atyniadau
geirda
diwylliant
siop
english

Ardal braf, bwthyn bendigedig a chroeso anfarwol. Pa well olygfa gewch chi?... Diolch am bob dim.
Cwmni Theatr Mega ar daith gyda'r Panto Cymraeg 'Macsen'

Diolch am y croeso cynnes. Roedd y fflat yn gyfforddus ac mewn lle bendigedig!
Myf a Rob Gate, Halifax

Diolch am gael aros yma - wedi cael wythnos wrth ein boddau, ac fe ddown ni eto os na fyddwn ni 'di cael ein banio!
Richard, Gwenllian, Caradog, Mali a Dafydd Grigg

Unwaith eto diolch i'r criw... diolch am y croeso, [y] gofal a charedigrwydd.
Tom a Gwen Roberts, Caerdydd

Diolch yn fawr am eich croeso. Lle hyfryd - yr ydym wedi mwynhau'r môr, y sêr a'r creigiau a Cheredigion i gyd. Diolch unwaith eto a phob bendith i'r dyfodol.
Felicity a Richard Cleaves, Cheltenham

Penwythnos hyfryd iawn. Wedi cael cyfle da i ymlacio. Edrych 'mlaen i ddod eto,
Noel a Maifis, Caerfyrddin

Cawsom amser bendigedig yma. Hafan dawel ym mis Chwefror. Diolch...
Carwyn a Zoe, Wiltshire

Wedi mwynhau mas draw! Y fflat yn hollol hyfryd a chysurus – a’r golygfeydd yn fendigedig! Y plant yn y Ganolfan hefyd wrth eu boddau! Diolch o galon!
Kath, Del a Gav a chriw Ysgol gyfun y Cymer, Rhondda

Fe gawsom ni benwythnos gwych yn Nhresaith a’r cyffiniau. Am argymell y lle i bawb!! A diolch i Angharad [yn y siop] am y taffis – roeddan nhw’n dderbyniol iawn dydd Sul pan oedd angen siwgr arna’ i!!
Nici Beech, Gwynedd

Anodd ffarwelio â Thresaith ar ôl wythnos arbennig. Wedi llwyr ymlacio. Y llety yn ardderchog ac yn gysurus. Diolch i chwi am eich croeso. Edrychwn ymlaen yn awr i ddychwelyd i’r fangre hyfryd hon yn fuan.
Emrys a Rose, Gwynedd

Wedi mwynhau ein hunain ac yn teimlo’n gysurus yn y fflat ardderchog yma. Byddwn yn ôl eto, mae’n siŵr. Diolch yn fawr.
Griff a Nan, Gwynedd

Unwaith eto amser arbennig o dda yma yn Nhresaith. Y fflat yn grêt ar gyfer ein teulu bach ni. Edrych ymlaen am y tro nesa’. Diolch.
Adam, Sian, Magi, Eli a Rhys Williams, Gwynedd

Diolch am wyliau hyfryd – y fflat, yr olygfa a Thresaith yn fendigedig. Y plant wedi joio mas draw!
Sioned, Aled, Mabon, Ianto, Swyn a Haf, Bancffosfelen

Ddoe roedd y môr yn stormus – gwynt mawr o’r gorllewin yn codi tonnau oedd yn chwyrlïo ewyn gwyn dros y traeth ac yn torri’n drochion nes bod y bae fel eira o ffenestri Fronifor… felly aethom i Lannerch Aeron, lle difyr iawn a gwerth ymweld ag o. Wedi wythnos o fôr go arw, er bod y tywydd yn braf, ddoe cawsom fôr godidog i nofio a rhwyfo ynddo – a haul cynnes ar yr un pryd! Diolch am wythnos fendigedig ar lan y môr.
Emyr, Angharad, Owain, Dyfan ac Esyllt, Cwm Tawe

Tri diwrnod o weithgareddau iachus iawn o gerdded y llwybr i gyfeiriad y de a’r gogledd. Yna yn y ‘Ship’ am weithgareddau llai iachus ond yr un mor bleserus. Seibiant hyfryd, diolch i Heledd am y croeso,
John a Ruth Thomas, Abertawe

Wel, am le bach hyfryd yw Tŷ Llew! Wedi dotio â Thresaith, y môr, y traeth ac wedi ymlacio yma’n llwyr. Dwi’n gobeithio cawn ddod nôl rhyw ddydd i brofi’r gwin unwaith eto. Diolch am eich croeso cynnes iawn (gan gynnwys y gwres hyfryd gyda’r nos!)
Gwen Lasarus a’r teulu, Bethel, Caernarfon

Gwyliau gwych - deffro i sŵn y tonnau a chael cyfle i ymlacio’n llwyr. Y fflat yn gyfforddus iawn a phawb wrth eu bodd ar lan y môr.
Teulu James, Bryn Iwan

Diolch o galon unwaith eto eleni am adael i blant Gwynllyw fynd i ‘fôr o Gymreictod’ Tresaith. Roedd y disgyblion wrth eu bodd a gwerthfawrogwn yn fawr eich haelioni tuag atom unwaith yn rhagor. Edrychwn ymlaen at ein cyfarfod flwyddyn nesaf!
Helen Rogers ar ran staff a disgyblion blwyddyn 8, Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Diolch am y cyfle inni ymweld â Thresaith unwaith eto eleni. Er gwaethaf tywydd garw, cafodd pawb amser bythgofiadwy. Rydym ni’n ceisio perswadio Mr Thomas i drefnu ymweliad arall inni!
Disgyblion blwyddyn 10, Ysgol Gyfun Gwynllyw

Wedi mwynhau mas draw - y fflat yn gysurus a'r lle'n fendigedig. Diolch o galon.
Mererid Hopwood a'r teulu, Caerfyrddin

Wedi cael amser grêt yma. Edrych ymlaen at ddod eto yn fuan. Diolch yn fawr.
Sian Williams a'r teulu, Gwynedd

Wedi cael amser godidog yn Nhresaith, un o berlau cuddiedig Cymru! Diolch am y croeso twym galon. Roedd y fflat yn gysurus a chartrefol - jyst y peth am benwythnos tawel ar lan y môr!
Rhodri Mabon a Nia Meleri, Dolgellau

Diolch o galon i chi am gael dod lawr i Dresaith eleni – roedd y disgyblion ifanc wrth eu bodd. Hoffwn ddiolch hefyd am eich haelioni tuag atom fel ysgol a gan fawr obeithio y cawn ddod lawr atoch yn ystod yr un cyfnod y flwyddyn nesaf. Cofion Cynnes,
Helen Rogers a Blwyddyn 8, Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypwl

Diolch yn fawr iawn i chi am y cyfle i ddod i lawr i Dresaith am gyfnod unwaith eto eleni. Cafodd pawb amser gwych.
Disgyblion Blwyddyn 10 ac athrawon, Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypwl

Bois bach, am le gwych i ysgolion! Dorm yr un i'r bechgyn a'r merched, ystafell amlbwrpas ar y llawr canol sy'n neuadd/ffreutur/llwyfan Eisteddfod ddwl a fflat drws nesaf i'r athrawon gael ymlacio. Mae'r gegin yn llydan ac yn llawn offer coginio. Dim ond siopa am fwyd a threfnu rota coginio sydd ei angen. Mae cawodydd a thai bach glân a'r drws ffrynt yn agor ar y grisiau sy'n arwain at y traeth. Lle saff, rhwydd, glân a chyfleus i fynd â chriw o ddisgyblion. Gwell peidio dweud mwy neu fe fyddwn ni'n cael trafferth llogi lle yn y dyfodol...
Aled Prys Williams (Pennaeth Adran Gymraeg), Ysgol Gyfun Strade, Llanelli

   pysgodfflat@hotmail.com    07780 548 288