Tŷ Llew - cysgu 4
Cafodd y fflat yma ei henwi ar ôl - T. Llew Jones (Hydref 1915 – Ionawr 2009)
Un o Ddyffryn Teifi oedd T. Llew Jones. Fe gafodd ei eni a'i fagu ym mhentref bach Pentre-cwrt ger Llandysul, a bu'n athro yn yr ardal am 35 o flynyddoedd. Dyma'i filltir sgwâr ac mae ei storïau yn llawn cyfeiriadau at lefydd yn yr ardal, fel Cwmtudu yn y nofel Dirgelwch yr Ogof. Y Plas sy'n sefyll ar ben y clogwyn uwchben Llangrannog ydy'r plas yn ei nofel Ysbryd Plas Nantesgob.
Cewch wybodaeth ychwanegol am yr awdur plant hynod o boblogaidd a’r bardd yma: www.bbc.co.uk/cymru/ffeil/cefndir/tllewjones.shtml ac yma: http://www.gomer.co.uk/gomer/cy/gomer.ViewAuthor/authorBio/750