Os hoffech weld rhagor o luniau mae angen i chi lawrlwytho Flash, ac/neu alluogi ActiveX
If you would like to see more pictures you need to download Flash and/or activate ActiveX
Mae pentref glan môr Tresaith wedi bod yn gyrchfan gwyliau dros gyfnod o flynyddoedd maith, a dyw’r hud heb ballu. Y traeth euraidd heb os, yw’r atyniad pennaf. Ceir rhaeadr ogoneddus yn arllwys i’r môr islaw, a phan fo’r llanw mas, gellid cerdded ar hyd y traeth yr holl ffordd i bentref cyfagos Penbryn - rhaid cadw llygad ar amseroedd y llanw, gwerthir yr amserlenni yn Siop y Traeth am £1.
Llwybr arfordirol Ceredigion Mae yna lwybr arfordirol yn cysylltu Tresaith ag Aberporth, cymer ond 20 munud i’w cherdded gyda’r môr islaw. Mae’r llwybr hefyd yn croesi’r clogwyni i’r gogledd tuag at Benbryn ac ychydig ymhellach eto, mae traeth Llangrannog sydd yn enwog erbyn hyn am ei Gwersyll Urdd. Gellid parhau drwy ddilyn y llwybr arfordirol yma i fyny a draw at Ynys Lochtyn sydd yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Y man cychwyn perffaith i’ch gwyliau fyddai un o’n fflatiau hardd o fewn Fronifor.