Os hoffech weld rhagor o luniau mae angen i chi lawrlwytho Flash, ac/neu alluogi ActiveX

If you would like to see more pictures you need to download Flash and/or activate ActiveX

hafan
llety
prisiau
atyniadau
geirda
diwylliant
siop
english

Siop y Traeth yw unig siop Tresaith. Fe’i lleolir, fel awgryma’r enw, reit ar y traeth! Mae gan y siop doreth o amrywiol bethau i’w gwerthu; o’r nodweddiadol fel bwced a rhaw, dillad nofio, stwff syrffio i lyfrau, cryno ddisgiau a phob math o fagiau lliwgar. Gellid hyd yn oed hirio siwt môr am y diwrnod am ddim ond £8. Os hoffech brynu llaeth a stampiau ayb mae’r siop agosaf ym mhentref cyfagos Aberporth sydd ddim ond dros filltir i ffwrdd.

Ond mae’n siŵr mai prif atyniad y siop yw’r hufen iâ godidog a gynhyrchir yn lleol yn sir Benfro. Hufen iâ organig, blasus mewn pob math o flasau. Mae’r merched (a Dafydd!) sy’n gweithio yma bob amser yn groesawgar ac yn barod i helpu. Gallant hefyd wneud pob mathau o goffi ar eich cyfer, coffi masnach deg sydd wastad yn derbyn canmoliaeth.

Teras: Drwy’r siop fe ddewch hyd i’r teras, man eistedd godidog uwchben y traeth, gyda golygfeydd perffaith ar hyd y traeth i gyd a thuag at y môr. Ceir digon o le i eistedd a phendwmpian uwchben cappuccino!

Amser agor: Pob diwrnod yn ystod gwyliau ysgolion Cymru o 10.30yb tan 6yh, a phob penwythnos sych rhwng Gwyliau Pasg a Hanner Tymor Hydref (ar gau drwy'r Gaeaf).

Cyfleusterau: Gyferbyn y siop ceir toiledau cyhoeddus gyda lle i olchi. Drws nesaf ar ddau ben y siop mae yna lefydd parcio. Y Caban: Drws nesaf i’r siop, y mae’r caban bwyd. Yma coginir bwyd ‘traddodiadol’ glan môr - sglodion a physgod, byrgyrs o gig eidion Cymreig a hefyd rholiau bacwn. Ceir hefyd opsiynau mwy iach a bwyd i lysfwytawyr, neu gallwch gael rholiau wedi eu llenwi yn y siop drws nesaf. Agorir Y Caban yn ystod tymhorau’r gwyliau a chyda’r haul yn gwenu!

01239 811 565    heledd@tresaith.net    07780 548 288