Eluned – cysgu 2/3
Cafodd y fflat yma ei henwi ar ôl - Eluned Phillips (Hydref 1914 – Ionawr 2009) Bardd o Genarth ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Hi yw’r unig wraig i ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.
Y tro cyntaf oedd yn Eisteddfod Y Bala ym 1967. Y testun oedd ‘Corlannau’ ac ysgrifennodd ddwy bryddest, gydag un ohonynt yn ennill y Goron a’r llall hefyd ymhlith y tair orau yn y gystadleuaeth. Ei phwnc yn y gerdd fuddugol yw tair o gorlannau crefyddol y byd, crefydd Islam, Cristnogaeth a chrefydd Bwda'r Tsieineaid.
Yr ail dro iddi ennill y Goron, oedd yn Eisteddfod Ynys Môn yn 1983. Testun y bryddest oedd ‘Clymau’. Ynddo mae Eluned Phillips yn cymryd agwedd dra gwahanol i agwedd ymffrostgar Prif Weinidog Prydain ar y pryd, Margaret Thatcher, wnaeth ddatgan rhyfel â’r Ariannin dros Ynysoedd y Malvinas. 'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd.