Os hoffech weld rhagor o luniau mae angen i chi lawrlwytho Flash, ac/neu alluogi ActiveX
If you would like to see more pictures you need to download Flash and/or activate ActiveX
Y Ganolfan hon yw adeilad mwyaf pentref Tresaith, gyda digon o le i fyny at 44 o bobol gysgu ynddi! Fe’i rhennir yn ddwy ystafell dorm, un gyda gwelyau bync i 20 o fechgyn, a dorm arall â gwelyau bync i 20 o ferched.
Ceir dwy ystafell fach drws nesaf i’r ddwy dorm lle y gall 2 athro / arweinydd aros gyda mwy o breifatrwydd. Mae yma ystafell fwyta / stafell fyw eang drws nesaf i gegin mawr hunan cynhaliol. Ceir dwy ystafell ymolchi sydd â chawodydd a thoiledau - un i’r bechgyn, ac un i’r merched.
Lleolir y Ganolfan yng nghanol pentref glan môr Tresaith. Dim ond 200 llath o’r traeth ar hyd llwybr troed drwy ganol y pentref.
Pwy all aros?
Unrhyw grŵp o bobol! Rydych yn hirio’r Ganolfan yn breifat. Gofynnwn eich bod yn aros yno am o leiaf ddwy noson, a chydag o leiaf 10 o bobol yn aros y nos. Mae’n fan perffaith am dripiau ysgolion / ysgolion Sul / gwahanol fudiadau / teuluoedd / ffrindiau, i gyd rannu a mwynhau yn hafan ddiogel Tresaith.
Dod â beth?
Mae’r Ganolfan yn hunan cynhaliol. Ceir oergell a rhewgell fawr yn y gegin, felly dewch a digonedd o fwyd eich hun. Mae yna ffwrn nwy a man ffrio dwfn i goginio, peiriant pilio tatws a pheiriant golchi llestri. Dewch â dillad gwely (sengl) eich hun, boed yn sachau cysgu neu flancedi. Darperir gobenyddion ond dim gorchuddion. Pwyswch yma am fanylion pellach o beth i ddod.
Parcio:
Lle o flaen y ganolfan i dri bws mini. Os oes angen rhagor o le, rhowch wybod o flaen llaw a gallwn sicrhau lle i barcio wrth y traeth.
Prisiau Canolfan Tresaith:
£12 y pen, y nos, yn unig yw hi i gael aros yn y Ganolfan. Darperir trydan, gwres a nwy o fewn y pris hwn.
Rhoddir gostyngiad i griw sydd yn dysgu Cymraeg (ee CYD), i ysgolion uwchradd dwyieithog Cymru ac i griwiau Ysgolion Sul a chymdeithasau Cristnogol.