Mae gennym dair fflat glyd o fewn Fronifor yng nghanol pentref glan môr Tresaith. Enw’r tair yw Cilie (cysgu 5), Tŷ Llew (cysgu 4) ac Eluned (cysgu 2/3).
Mae gennym hefyd Ganolfan fawr, braf yn cysgu 44 o bobl sydd yn boblogaidd gyda theithiau ysgolion a chyfle i ffrindiau ymgasglu.
Gerllaw i Fronifor a’r Ganolfan ceir llwybr troed drwy ganol y pentref sy’n arwain 500 llath i lawr at y traeth. Gellid parcio ar heol breifat o flaen y tŷ a’r Ganolfan. Ceir golygfeydd o’r môr o bron i bob ffenest.
Mae gan bob un o’r fflatiau eu mynediad preifat eu hunain.
Pwyswch ar un o’r dolenni ar y chwith i gael gwybodaeth am y fflatiau unigol a’r Ganolfan.