Os hoffech weld rhagor o luniau mae angen i chi lawrlwytho Flash, ac/neu alluogi ActiveX

If you would like to see more pictures you need to download Flash and/or activate ActiveX

hafan
llety
prisiau
atyniadau
geirda
diwylliant
siop
english

Tŷ Llew - cysgu 4/6

Mae'r fflat hwn yn cysgu i fyny at 6 person. Dyma’r fflat sydd ar lawr Fronifor, nid oes grisiau yn arwain at y fflat nac o’i mewn. Ceir mynediad iddi yng nghefn y tŷ. Mae yma stafell wely ddwbl eang, stafell â gwely 'bync', a gellid hefyd gysgu ar y soffa ledr ddwbl sydd yn y parlwr. Cynnwys y gegin bwrdd bwyta, popty ping (meicrodon), ffwrn, oergell, rhewgell a pheiriant golchi dillad. Darperir yr holl ddillad gwely, bydd angen dod â thywelion. Caniateir anifail anwes i aros yn y fflat hwn.

Cafodd y fflat yma ei henwi ar ôl - T. Llew Jones (Hydref 1915 – Ionawr 2009)

Un o Ddyffryn Teifi oedd T. Llew Jones. Fe gafodd ei eni a'i fagu ym mhentref bach Pentre-cwrt ger Llandysul, a bu'n athro yn yr ardal am 35 o flynyddoedd. Dyma'i filltir sgwâr ac mae ei storïau yn llawn cyfeiriadau at lefydd yn yr ardal, fel Cwmtudu yn y nofel Dirgelwch yr Ogof. Y Plas sy'n sefyll ar ben y clogwyn uwchben Llangrannog ydy'r plas yn ei nofel Ysbryd Plas Nantesgob.

Cewch wybodaeth ychwanegol am yr awdur plant hynod o boblogaidd a’r bardd yma: www.bbc.co.uk/cymru/ffeil/cefndir/tllewjones.shtml ac yma: http://www.gomer.co.uk/gomer/cy/gomer.ViewAuthor/authorBio/750

01239 811 565    heledd@tresaith.net    07780 548 288