Hen linell bell nad yw'n bod Hen derfyn nad yw'n darfod.
Ysbrydolwyd y ffenest liw hon wrth edrych draw at y gorwel yma yn Nhresaith. Ffenest liw, gron, wedi ei gwneud â llaw a’i gosod mewn ffrâm sgwâr dderw. Comisiynwyd y ffenest yn arbennig ar gyfer rhaglen deledu ‘Twrio’ ar S4C, ac fe’i gwnaethpwyd gan y cynlluniwr ffenestri lliw, Tim Lewis. Gellwch gysylltu â Tim Lewis drwy e-bost neu ffoniwch ar 01792 790521.
Mae’r gwydr yn creu llun o’r haul yn machlud ar lan y môr. Yn y ffenest ceir cwpled o gerdd ‘Y Gorwel’ gan y bardd enwog Dewi Emrys. Cewch mwy o wybodaeth yma am Dewi Emrys.
Mae croeso i chi weld y ffenest liw hon trosoch eich hun dim ond i chi ofyn o flaen llaw.